Ein Gwasanaethau
Gair neu ddau Amdanom Ni
Cafodd Therapi Gamblo ei lansio gan Gymdeithas Tai Gordon  (Cymdeithas Gordon Moody bellach) ar Dachwedd 5ed 2004, ac yn sgil hynny fe sefydlwyd y fforwm a’r grwpiau cymorth ym mis Mehefin 2005. Bu Therapi Gamblo yn llwyddiant ysgubol, yn gymaint felly fel ein bod yn rhoi cymorth i filoedd o aelodau erbyn hyn.
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys rhoi cyngor a chymorth ar-lein i unigolion, grwpiau cymorth ar-lein, fforwm, a chronfa ddata sy’n llawn o adnoddau buddiol. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r gwasanaethau gweler isod os gwelwch yn dda. Mae pob un o’r gwasanaethau hyn ar gael i bawb sydd â phroblem gamblo ac i’r bobl hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan broblem gamblo rhywun arall.
Therapi Grŵp
Mae grwpiau cymorth yn cael eu cynnal ar amryw adegau o’r diwrnod dros gyfnod o saith diwrnod. Pan fyddwch chi’n cofrestru ar y wefan nid ydych yn gorfod defnyddio eich enw go iawn pe byddai’n well gennych chi beidio. Unwaith y byddwch chi wedi ymuno â’r grŵp gallwch chi gael sgwrs fyw, wedi’i theipio, â phobl eraill sy’n gamblwyr problemus neu â rhywun sydd wedi cael eu heffeithio gan broblem gamblo rhywun arall. Bydd y grŵp yn cael ei hwyluso gan un o aelodau’r Tîm Therapi Grŵp, ac mae’r grwpiau ar gael i bawb sydd angen cymorth a chefnogaeth ynghylch problem gamblo neu i unrhyw berson sydd wedi cael eu heffeithio gan broblem gamblo rhywun arall.
 Mae chwe math o grwpiau:
  • Cymuned – dyma grŵp y gall pawb ymuno ag ef
  • Gamblwyr Diymollwng – ar gyfer gamblwyr problemus yn unig y mae’r grŵp hwn
  • Teulu a Ffrindiau – mae’r grŵp hwn ar gyfer unrhyw berson sydd wedi’i effeithio gan broblem gamblo rhywun arall 
  • Grŵp Gamblwyr Diymollwng i ferched yn unig – yn y grŵp hwn gall merched sgwrsio â merched eraill, sydd wedi cael yr un profiadau; caiff y grŵp ei hwyluso gan ddynes hefyd
  • Grŵp Gamblwyr Diymollwng i ddynion yn unig – yn y grŵp hwn gall dynion sgwrsio â dynion eraill sydd wedi cael yr un profiadau; caiff y grŵp ei hwyluso gan ddyn hefyd
  • Pobl Ifanc o dan 21 oed sydd wedi’u heffeithio gan Gamblo - - mae’r grŵp hwn ar gyfer unrhyw berson o dan 21 oed sydd wedi cael ei effeithio gan broblem gamblo rhywun arall
Mae’r grwpiau hyn yn ffordd wych o roi a chael cymorth ac mae hefyd yn lle diogel i siarad yn hollol ddi-flewyn-ar-dafod am unrhyw broblemau sydd gennych.
Y Fforwm
Mae’r fforwm ar agor bob awr o’r dydd, ar bob diwrnod o’r wythnos. Bydd rhaid ichi gofrestru er mwyn ymuno â’r fforwm (gallwch ddefnyddio pa enw bynnag yr hoffech; nid ydych yn gorfod defnyddio eich enw go iawn). Gallwch osod eich hanes eich hun a rhoi ateb i hanesion pobl eraill. Gall ysgrifennu fod yn fater llesol iawn ac mae’n ffordd wych ichi allu bwrw golwg yn ôl ar bethau. Mae’r fforwm yn un byd-eang – felly oherwydd y gwahaniaethau amser fe fydd yna wastad rhywun ar gael i roi ateb i chi.
Mae’r fforwm ar gael i bawb sydd â phroblem gamblo ac i’r bobl hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan broblem gamblo rhywun arall.
Cyngor trwy E-bost
Pan fydd y llinell gymorth wedi cau rydych chi’n dal i allu cysylltu â Therapi Gamblo trwy ddefnyddio e-bost; byddwn yn ceisio ymateb o fewn pedair awr ar hugain. Fodd bynnag, pe byddai’n well gennych gael gair â ni trwy ddefnyddio’r ffordd hon, yna cofiwch anfon e-bost, hyd yn oed os yw’r ymgynghorydd ar-lein. Mae Therapi Gamblo yn cynnig gwasanaeth mewn sawl iaith, sydd ar hyn o bryd yn cwmpasu dwy wlad ar hugain; felly os nad Saesneg yw’ch iaith gyntaf chi, gallwch ddefnyddio e-bost i gael cymorth a chefnogaeth sydd ar gael, yn gyffredinol a rhwydd, i chi.
Mae gwasanaeth e-bost ar gael i bawb sydd â phroblem gamblo ac i’r bobl hynny sydd wedi eu heffeithio gan broblem gamblo rhywun arall.
Cyngor SMS/Testun
Os oes gennych bryderon gallwch eu hanfon â neges testun at 07624 806159 (neu +44 7624 806159 os nad ydych yn y DU) a byddwn yn anfon ateb trwy roi cyngor ichi. Byddwn yn ymateb o fewn 24 awr ar wahân i’r penwythnosau a gwyliau banc - fe allai gymryd ychydig yn hirach bryd hynny.
Mae SMS/Testun ar gael i bawb sydd â phroblem gamblo a’r bobl hynny sydd wedi eu heffeithio gan broblem gamblo rhywun arall.
Cynghori
Mae Therapi Gamblo yn cynnig gwasanaeth cynghori ar-lein gyda BACP (Cymdeithas Cynghorwyr a Seicotherapyddion Prydain) sy’n gynghorwyr achrededig. Fodd bynnag, fe godir tâl am y gwasanaeth hwn fel arfer.
Mae cynghori ar gael i bawb sydd â phroblem gamblo – ac i’r bobl hynny sydd wedi eu heffeithio gan broblem gamblo rhywun arall.
Er mwyn gwneud cais am gynghorwr, byddwch cystal â chysylltu ag Ian Semel.